Rhif y ddeiseb: P-05-932

Teitl y ddeiseb: Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol

Geiriad y ddeiseb:

Nid oes cyfraith yn bodoli yn unman yn y DU ar hyn o bryd sy'n cynnig addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion o oedran cynradd ac i fyny.

Rydyn ni eisiau newid hynny! Byddai cynnig sesiynau addysgol mewn ysgolion o fudd i blant sydd mewn perygl o anaffylacsis. Byddai'n helpu pobl eraill i ddeall alergeddau bwyd, sef cyflwr meddygol na fyddech yn ymwybodol o'i sgîl-effeithiau oni bai eich bod yn adnabod rhywun sydd â'r cyflwr.

Rydym yn gobeithio y byddai cyflwyno sesiynau addysgol ar alergeddau bwyd hefyd yn cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â nhw, yn dileu bwlio ac yn cynnig rhagor o gefnogaeth i blant sydd â'r cyflwr hwn.

Y cyfan y mae'n ei gymryd yw un cyffyrddiad neu un tamaid, ac, heb ddefnyddio epi pen, gallech fod yn wynebu sefyllfa drasig iawn.

Byddai cyflwyno hyfforddiant epi pen gorfodol hefyd yn cael gwared ar y pryder i deuluoedd sydd â rhywun ag alergeddau bwyd. Byddai athrawon a staff ysgol yn gwybod beth yw arwyddion hanfodol adwaith alergaidd, ac felly byddai modd iddynt sylwi ar anaffylacsis yn gynt.

Mae Archie's Allergies yn elusen newydd sy'n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth am bwysigrwydd bod yn ymwybodol o alergeddau. 

 


Y ddarpariaeth bresennol ar gyfer anghenion gofal iechyd dysgwyr

Mae'r llythyr gan y Gweinidog Addysg yn nodi'r camau sydd eisoes ar waith o ran addysg, ymwybyddiaeth a’r ddarpariaeth ar gyfer alergeddau bwyd a defnyddio Chwistrellwyr Adrenalin Awtomatig (AAIs), y mae’r  ‘epi pen’ ymhlith y brandiau cyffredin ohonynt.

Mae’r camau hyn yn cynnwys:

§  Dyletswyddau cyffredinol ar awdurdodau lleol ac ysgoliono dan Ddeddf Addysg 1996 a Deddf Addysg 2002;

§  Canllawiau statudol ar Gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd(2017);

§  Canllawiau ar ddefnyddio chwistrellwyr adrenalin awtomatig brys mewn ysgolion yng Nghymru (2017);

§  Gofyniad Rheoliad Darparu Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr EU i wybodaeth fod ar gael am gynhwysion bwyd a diod a weinir mewn ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 ac yn diwygio'r canllawiau statudol, a gyhoeddwyd yn 2014, ar hyn ar gyfer ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu ei dull gweithredu o ran alergeddau ac imiwnoleg o safbwynt iechyd ac yn dweud y bydd yn ymgysylltu ag Ymgyrch Anaffylacsis ac Alergedd y DU.

Canllawiau statudol ar gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd

Mae'r canllawiau statudol ar gyfer cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd, a gyhoeddwyd yn 2017, yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ynghylch cyflawni eu dyletswyddau tuag at ddysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd. Roedd fersiwn ddiwethaf y canllawiau (2010) yn anstatudol ac ystyriwyd bod gosod y canllawiau diwygiedig ar sylfaen statudol yn gam sylweddol ymlaen. Digwyddodd hyn yn ystod gwaith craffu’r Cynulliad ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg lle trafodwyd y berthynas ag anghenion gofal iechyd yn fanwl.

Mae'r canllawiau'n nodi y dylai staff ysgolion ddeall eu rôl wrth gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd ac y dylid darparu hyfforddiant priodol. Gall staff unigol ymgymryd â rôl wrth gynorthwyo neu oruchwylio’r broses o roi meddyginiaethau, er bod hyn yn gwbl wirfoddol. Rhaid i staff gael hyfforddiant digonol ac addas, a chyflawni'r lefel cymhwysedd angenrheidiol cyn iddynt ymgymryd â’r cyfrifoldeb.

Canllawiau ar ddefnyddio chwistrellwyr adrenalin awtomatig brys mewn ysgolion yng Nghymru

Mae newid yn neddfwriaeth Senedd y DU a wnaed ym mis Hydref 2017 yn golygu y gall ysgolion brynu AAIs i'w defnyddio mewn argyfyngau, heb fod angen presgripsiwn. Mae AAIs yn cynnwys un dos sefydlog o adrenalin (sy'n cael ei alw weithiau'n epineffrini) ac yn cael eu hargymell fel y driniaeth gyntaf ar gyfer anaffylacsis.  Mae anaffylacsis yn adwaith alergaidd difrifol, sy'n gallu peryglu bywyd, ac yn aml yn digwydd o fewn munudau neu weithiau ar ôl oriau.  Mae'n digwydd oherwydd bod system imiwnedd y corff yn ymateb yn amhriodol i sylwedd y mae'n ei ystyried, yn anghywir felly, yn fygythiad.

Mae adrenalin yn trin y symptomau ac yn rhwystro rhagor o gemegau rhag cael eu rhyddhau ac achosi anaffylacsis.  Gall AAIs arbed bywyd ac maent yn ddyfeisiau sy'n galluogi gweithwyr proffesiynol heb fod ym maes gofal iechyd i roi adrenalin e.e. staff, teulu, unigolion sy’n gallu rhoi cymorth cyntaf. Mae oedi cyn rhoi adrenalin yn ganfyddiad cyffredin mewn achosion o adweithiau angheuol.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi ‘gallai cadw AAI sbâr ar gyfer argyfwng arbed bywyd plentyn neu berson ifanc a rhoi mwy o dawelwch meddwl i rieni’. Mae'r canllawiau hefyd yn atgoffa rhieni na ddylid byth ddibynnu ar AAI brys yn lle AAI eich plentyn rhag ofn na fydd gan feithrinfeydd neu ysgolion AAI brys ar y safle.

Addysgu am anghenion gofal iechyd

Y cwricwlwm presennol - Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)

Mae ABCh yn ofyniad cwricwlwm statudol ac mae'n rhan o'r cwricwlwm sylfaenol ar gyfer pob disgybl cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir sydd o oedran ysgol gorfodol. Penaethiaid a'u llywodraethwyr sy'n gyfrifol am benderfynu ar union gynnwys a model cyflwyno rhaglen ABCh yr ysgol, gan weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill.

Mae ysgolion yn defnyddio'r fframwaith ABCh anstatudol (2008) i adolygu a datblygu eu rhaglenni ABCh.  Dylai athrawon, penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, colegau a darparwyr addysg eraill seilio eu darpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol ar y ddogfen hon.

Mae 'galluogi dysgwyr i fyw bywydau diogel ac iach' yn un o nodau ABCh. Mae llythyr y Gweinidog yn nodi y gall ysgolion wahodd sefydliadau i gyflwyno gwybodaeth i’w disgyblion am amrywiaeth o faterion, gan gynnwys alergeddau bwyd. Mae hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod sgiliau achub bywyd a gweithdrefnau cymorth cyntaf brys yn bwysig i bawb eu dysgu.

Cwricwlwm Newydd i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag 'Ysgolion Arloesi', wedi datblygu 'Cwricwlwm Newydd i Gymru', yn dilyn yr adolygiad Dyfodol Llwyddiannus, sef yr adolygiad a gynhaliwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn 2015. 

Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei seilio ar bedwar diben a chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Un o’r meysydd dysgu a phrofiad yw Iechyd a Lles. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cwricwlwm drafft ar gyfer Cymruym mis Ebrill 2019. Yn dilyn ymarfer adborth, mae wrthi’n mireinio’r ddogfen ymhellach cyn ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2020. Bydd y Gweinidog Addysg yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Ionawr ynghylch y cwricwlwm newydd. 

Caiff y Cwricwlwm newydd i Gymru ei gyflwyno fesul cam o fis Medi 2022. Bydd yn cael ei addysgu i ddechrau yn yr ysgol gynradd a Blwyddyn 7 cyn mynd ymlaen i Flwyddyn 8 yn ystod 2023/24 ac yn y blaen wrth i'r disgyblion hyn symud i fyny drwy’r ysgol nes eu bod yn cyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27.

Un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn y cwricwlwm newydd yw ‘Iechyd a Lles’. Mae’r ddogfen ddrafft Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi’i seilio ar ddibenion yn hytrach na’i ddiffinio yn syml gan ei gynnwys. Gan hynny, nid oes ‘rhaglenni astudio’, a bydd llai o ragnodi o ran yr hyn y mae’n rhaid ei ddysgu nag yn y cwricwlwm presennol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.